Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-930

Teitl y ddeiseb: Deiseb ar gyfer Meddygfa Glanyfferi

Geiriad y ddeiseb:Rydym yn teimlo'n gryf iawn ei bod yn hanfodol cadw meddygfa Glanyfferi.

Mae arnom angen doctor, nyrs a fferyllfa i gynnig y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar bentref lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion dros 50 oed.

Mae'n rhan greiddiol o Ganolfan Gymunedol Calon y Fferi, sy'n hygyrch iawn.  Mae ymweld â'r ganolfan yn gyfle i gwrdd â phobl ac mae'n lliniaru teimladau o unigrwydd ac unigedd.  Mae'n helpu i gynnal iechyd corfforol ac iechyd meddwl ar lefel leol.  Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, ac mae hynny'n golygu ei bod yn anodd i bobl sydd â phroblemau wrth symud fynd i ganolfannau meddygol eraill.

Mae'r rhan fwyaf o bobl am aros yn eu cartref eu hunain wrth iddynt heneiddio, ac mae'n bosibl bod hyn yn fwy cynaliadwy ac yn gwneud mwy o synnwyr ariannol pan fo gwasanaethau a chwmniaeth heb fod yn bell.  Byddai'n gam am yn ô li orfodi'r holl drigolion i adael y pentref am driniaeth.

Cefndir

Mae Meddygfa Mariners, sydd wedi’i lleoli yng Nglanyfferi, yn rhan o bractis Meddygfa Minafon.

Ym mis Hydref 2019, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgynghoriad ar gynigion i gau Meddygfa Mariners ac adleoli gwasanaethau i feddygfeydd eraill. Ers 2016 mae Meddygfa Mariners ond wedi bod yn cynnig sesiynau nyrsio, a hynny yn absenoldeb unrhyw feddygon teulu a oedd ar gael i weithio yno. Mae rhai pryderon wedi’u mynegi (ac wedi’u hadrodd yn y cyfryngau) y bydd cleifion â phroblemau symudedd yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y meddygfeydd agosaf sy’n gweithredu fel rhan o bractis Meddygfa Minafon – sef y meddygfeydd yng Nghydweli a Thrimsaran.

Ar 16 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddatganiad yn cadarnhau y byddai Meddygfa Minafon yn cau Meddygfa Mariners ar 31 Rhagfyr 2019, ‘oherwydd yr angen i ddwyn gwasanaethau ynghyd ar gyfer y boblogaeth gyfan, a hynny ym Meddygfa Minafon a Meddygfa Trimsaran.’  

Dywed y Bwrdd Iechyd ei fod wedi ymgynghori'n helaeth ar y mater, ac wedi ysgrifennu at yr holl gleifion yr effeithir arnynt er mwyn egluro'r penderfyniad ac er mwyn roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw ddatblygiadau pellach.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn cydnabod bod y penderfyniad i gau Meddygfa Mariners yn siom mawr i nifer o gleifion.  Yn anffodus, does dim gwasanaeth Meddyg Teulu wedi bod yn y feddygfa gangen hon ers 2016 â chleifion yn teithio i Feddygfa Minafon gerllaw yng Ngydweli ar gyfer apwyntiadau Meddyg Teulu a chlinigau clefydau cronig dan arweiniad nyrsys.

‘Yn dilyn adolygiad o sut mae gwasanaethau’n cael eu defnyddio gan gleifion yn y feddygfa, mae gwasanaethau Meddygfa Mariners yn cael eu symud i Feddygfeydd Minafon a Thrimsaran fel eu bod yn eistedd o fewn y timau aml-ddisgyblaethol dan arweiniad Meddygon Teulu er mwyn sicrhau bod cleifion yn gweld y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, megis Fferyllydd neu Ffisiotherapydd.’  Rydym wedi gwrando ar bryderon cleifion ynghylch y gwasanaethau yng Nglan-y-fferi ac yn gweithio gyda Grŵp Menter Gymdeithasol Glan-y-fferi i barhau â’r clinigau fflebotomi wythnosol yng Nghalon-y-Fferi a bydd Rhagnodydd Cymdeithasol yn cynnal clinigau rheolaidd, hefyd yng Nghalon-y-Fferi.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mai cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw darparu gwasanaethau meddygon teulu digonol yng Nglanyfferi. Dywedodd:

Rwy'n ymwybodol bod Meddygfa Mariners yng Nglanyfferi wedi penderfynu cyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gau'r lleoliad ar Ffordd Caerfyrddin a chyfuno eu gwasanaethau ym Meddygfa Minafon yng Nghydweli. Mae hwn yn fater contractiol rhwng y Bwrdd Iechyd a'r practis meddyg teulu ac ni allaf ymyrryd yn y mater.

Rwy’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod ansefydlog i'r cleifion. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid fel rhan o broses o ymgynghori ar gais y practis. Bydd panel adolygu'r practis yn cael ei alw ynghyd i ystyried y cais, a hynny yn unol â phrotocol y cytunwyd arno â'r Cyngor Iechyd Cymuned.  Wrth ystyried y cais, bydd y panel adolygu yn edrych ar y rhesymau dros y cais, defnydd cleifion ar hyn o bryd, yr effaith ar gleifion, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a safbwyntiau cleifion.

Rydym yn cydnabod bod y system meddygon teulu o dan lawer o bwysau ac rydym yn gweithio i sicrhau bod pob claf yn gallu cael mynediad at y gofal cywir ar yr adeg gywir.

Mae’r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at safonau mynediad newydd Llywodraeth Cymru at wasanaethau meddygol cyffredinol, sef y safonau y disgwylir i feddygfeydd eu bodloni erbyn mis Mawrth 2021. Er mwyn helpu practisau i fodloni’r safonau hyn, bydd £3.76 miliwn yn cael ei fuddsoddi eleni mewn gwasanaethau teleffoni digidol. Nododd y Gweinidog fanylion y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â materion yn ymwneud â recriwtio meddygon teulu a sicrhau bod y proffesiwn yn fwy deniadol, fel yr ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw. Yn ôl y Gweinidog, ers i’r ymgyrch gael ei lansio yn 2016, cafwyd cynnydd sylweddol yn y gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu. Eleni, mae cyfanswm o 186 o lefydd wedi'u llenwi, sy'n uwch na'r targed newydd y cytunwyd arno, sef 160 o swyddi. Dyma'r nifer uchaf o bobl i gael eu recriwtio i hyfforddiant arbenigol meddygon teulu yn ddiweddar.